Mae gan Lanfairfechan gyfoeth o natur gyda’i lleoliad ardderchog yng nghysgod y mynyddoedd ac yn ymestyn i lawr am y Fenai. Drwy elwa o ficrohinsawdd, mae’r dirwedd yn llawn planhigion ac anifeiliaid.
Mae Llanfairfechan yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau i wylio adar yng ngogledd Cymru. Ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, caiff llawer o bobl eu denu gan y gobaith o weld sawl rhywogaeth o adar y môr ac adar dŵr ar hyd ei thraethau, morfa heli a’r afon.
Yn ystod yr hydref a’r gaeaf, mae’n cefnogi’r boblogaeth fwyaf ym Mhrydain o wyachod mawr copog sy’n bwrw eu plu ar yr arfordir, ynghyd â niferoedd mawr o hwyaid danheddog bronrudd a hwyaid llygaid aur.
Yn ychwanegol at hyn, mae gwylwyr adar yn heidio i’r ardal i weld nifer fawr o adar hirgoes sy’n dod i Draeth Lafan dros y gaeaf, neu wrth deithio yn ystod ymfudiad y gwanwyn a’r hydref.
Mae pedair rhan i Draeth Lafan gan ddechrau gyda Glan Môr Elias ar ddiwedd Promenâd Llanfairfechan. Wedi’i wneud o forfa heli, mae’r ardal hon yn lle gwych i wylio adar ym mhob rhan o’r llanw. Yr adar sydd i’w gweld fwyaf cyffredin ar hyd y darn hwn ydy Corhwyaid, Hwyaid Gwylltion a Hwyaid yr Eithin.
Y tu hwnt i Glan Môr Elias, mae’r llwybr cerdded yn arwain at Forfa Madryn gyda chaeau corslyd tua lefel y môr a phyllau bas wedi’u tirlunio. Mae’r warchodfa yn denu amrywiaeth o adar trwy gydol y flwyddyn y mae modd eu gweld o’r cuddfannau ar hyd y warchodfa.
Wrth fynd ymlaen at Abergwyngregyn fe welwch chi Forfa Aber, ardal tir gwlyb gyda chuddfan adar sy’n edrych ar hyd y morfa heli lle gwelwch chi amrywiaeth o adar hela ac adar hirgoes gan gynnwys Pïod y Môr a Gylfinirod.
Yna i orffen, gan barhau tua’r gorllewin, fe ddewch at Warchodfa Natur Aberogwen, morlyn arfordirol ar hyd aber Afon Ogwen. Mae dros 45 rhywogaeth o adar sy’n preswylio yno dros yr haf gyda mwy o rywogaethau yn ymweld dros y gaeaf, mae 22 rhywogaeth o loÿnnod byw hefyd wedi’u gweld yn yr ardal hon.
Mae’r ardal hon yn enghraifft wych o dir hamddena Fictoraidd. Roedd unwaith yn rhan o Ystâd Newry, cafodd ei osod ar brydles i gwmni lleol ac ar ddiwedd yr 1800au cafodd ei datblygu at ddibenion hamddena. Buasai ymwelwyr cyn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cyrraedd y coetir ar gefn ceffyl. Buasai ymwelwyr yn yr 1920au a’r 30au wedi bod yn ddosbarth gweithio fuasai wedi gallu mwynhau paned mewn cwt lluniaeth ger y pwll pysgod.
Heddiw, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n berchen ar yr ardal ac fe gaiff ei chydnabod fel gwarchodfa natur, yn gartref i nifer o goed derw, gwern, ynn a sycamorwydd ac arddangosfa hyfryd o flodau’r gog yn y gwanwyn.
Mae modd gweld nifer o adar o gwmpas y coetir gan gynnwys y gwybedog cefnddu, siglen lwyd a chrëyr o bryd i’w gilydd.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnal gwaith ymchwil sy’n awgrymu bod y merlod sy’n byw ar y Carneddau wedi bod ar eu pennau eu hunain am o leiaf cannoedd o flynyddoedd a’u bod yn boblogaeth sy’n wahanol yn enetig. Mae ffermwyr lleol, sy’n cynnwys Gareth Wyn Jones, yn ymgyrchu dros roi statws brîd prin i’r brîd er mwyn helpu i warchod y boblogaeth.
Mae’r merlod hyn yn chwarae rhan hanfodol yn ecoleg Parc Cenedlaethol Cymru gan eu bod yn rhan o gynllun pori sy’n cynnal cynefin ffafriol ar gyfer yr aderyn mewn perygl, y Frân Goesgoch.
Mae modd gweld y merlod hyn ar hyd y llwybrau cerdded ar fynyddoedd y Carneddau ac maent yn harddwch prin.
Protecting the heritage of the Carneddau poniesThe mystical Carneddau ponies have roamed the mountains of Wales for thousands of years. 📺 See more when ITV Coast & Country returns this Friday at 8pm on ITV Cymru Wales.
Posted by ITV Wales on Thursday, 26 April 2018