Mae detholiad bach o gaffis a bwytai yn Llanfairfechan lle cewch fwynhau tamaid i'w fwyta, ddydd neu nos.
Mae'r merched yng Nghaffi Glan Afon (Riverside Cafe), sydd yng nghanol y dref ar hyd yr afon, yn cynnig cinio cartref hyfryd a the prynhawn gyda dewis bwyd heb glwten hefyd ar gael. Mae'r caffi ar agor o 9yb-4yp, ac yn lle poblogaidd i gerddwyr a beicwyr sydd am roi hwb i'w hegni cyn parhau ar eu hantur.
Caffi Seagrass - Dan berchnogaeth newydd mae'r caffi hyfryd hwn ger y Clwb Hwylio ac yn edrych allan ar y promenâd. Mae'n gweini detholiad gwych o fwyd cartref a choffi da.
Caffi'r Pafiliwn - Gellir dadlau mai dyma'r lleoliad gorau yn y dref, mae'r adeilad hanesyddol yn edrych dros yr arfordir ac yn darparu detholiad eang ar y fwydlen, nifer fawr o wahanol flasau o hufen iâ blasus ynghyd â thrwydded alcohol. Mae'r caffi ar agor bob dydd trwy'r gwanwyn, yr haf a'r hydref.
Mae'r Split Willow yn adeilad hyfryd o'r oes o'r blaen mewn gerddi hyfryd ac yn cynnig ystafelloedd digwyddiadau a dewis arlwyo. Yn ddelfrydol i grwpiau, mae modd archebu ystafelloedd unigol am wasanaeth personol a phrydau bwyd blasus. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw. Mae hefyd yn lle delfrydol i gynnal priodasau a digwyddiadau, gyda lle i hyd at 100 o westeion yn yr ystafelloedd digwyddiadau.
Y tu hwnt i'r dref
Yr Hen Felin - Abergwyngregyn
Y pentref agosaf ydy pentref hyfryd Abergwyngregyn, sy'n enwog am ei rhaeadr drawiadol, Rhaeadr Fawr, ac yn fwy diweddar am gynhyrchu jin. Yn y pentref hwn fe ddewch o hyd i gaffi hyfryd sy'n gweini cinio, lle perffaith i roi hwb i'ch egni ar ôl bod am dro i weld y rhaeadr.
The Gladstone - Dwygyfylchi
Mae'r dafarn hon ym mhentref cyfagos Dwygyfylchi yn gweini detholiad blasus o brydau bwyd mewn amgylchedd hamddenol gyda gardd gwrw gwych sy'n edrych dros y Fenai.
Mae Conwy yn ddewis gwych a phoblogaidd gyda detholiad o wahanol fwytai, o far tapas y Banc, i fwyty 5 seren Signatures sydd hefyd wedi ennill gwobrau. Mae rhywbeth at ddant pawb. Hyn oll o fewn 15 munud yn y car o Lanfairfechan!